Sgwrsio byw

Os oes angen cymorth arnoch yn dilyn trosedd, gallwch chi sgwrsio ag un o’n cefnogwyr sydd wedi’u hyfforddi. Mae sgwrsio byw yn wasanaeth di-dâl sydd ar gael i bobl y mae troseddu wedi effeithio arnynt yng Nghymru a Lloegr, 24 awr y dydd a saith diwrnod yr wythnos. I ddechrau sgwrs fyw, dewiswch y botwm ‘Sgwrsio nawr’ isod. Os oes angen cymorth pellach arnoch chi, gallwch chi:

  • Ddod o hyd i gymorth yn agos atoch chi. Nodwch, oherwydd cyfyngiadau coronafeirws, nid ydym yn darparu cymorth wyneb-yn-wyneb ar hyn o bryd, ond mae ein timau lleol yn dal ar gael i ddarparu help a chyngor o bell.
  • Gofyn am gymorth ar-lein
  • Creu cyfrif ar My Support Space – adnodd ar-lein di-dâl sy’n cynnwys canllawiau rhyngweithiol a gwybodaeth i’ch helpu chi i reoli’r effaith y mae’r drosedd wedi’i chael arnoch chi.
  • Ein ffonio ni ar rhadffôn 08 08 16 89 111.

Mae rhai pobl yn cael trafferthion wrth ddefnyddio IE11; os cewch chi’r drafferth yma, rhowch gynnig ar borwr gwahanol – er enghraifft, Google Chrome.

Mae ein gwasanaeth sgwrsio byw ar gael i bobl y mae troseddu wedi effeithio arnynt ledled Cymru a Lloegr. Mae’n rhoi cyfle i chi siarad â’n cefnogwyr sydd wedi’u hyfforddi ar-lein ac yn gyfrinachol. Rydyn ni eisiau i chi gael y profiad gorau posib, felly rydyn ni wedi llunio ychydig o ‘reolau’r tŷ’ er mwyn rhoi gwybod i chi beth gallwch chi ei ddisgwyl, a sut gallwn ni helpu.

Beth gallwch chi ei ddisgwyl gennym ni

  • Byddwch chi’n cael cyfle i siarad ar-lein yn ddiogel ac yn gyfrinachol, ac i ddewis beth fyddwch chi’n ei ddweud wrthym.
  • Byddwch chi’n gallu cael cymorth beth bynnag fo’r math o drosedd y cawsoch chi brofiad ohoni, pryd digwyddodd neu p’un ai ydyw wedi’i hadrodd i’r heddlu ai peidio.
  • Byddwch chi’n siarad ag un o’n cefnogwyr sydd wedi’u hyfforddi, a byddan nhw’n gwrando arnoch chi â pharch a sensitifrwydd.
  • Bydd unrhyw beth y byddwch yn ei ddweud wrthym yn cael ei gadw’n gyfrinachol, a bydd eich holl wybodaeth yn saff ac yn ddiogel. Darllenwch ein polisi cyfrinachedd a chydsyniad er mwyn cael gwybod mwy am hyn.
  • Byddwn yn gofyn i chi ydych chi wedi derbyn ein cymorth o’r blaen, neu ai nawr rydych chi’n ceisio cymorth, fel y gallwn sicrhau y cewch chi’r cymorth priodol.
  • Byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cymorth iawn. Gallai hynny fod trwy Victim Support, neu gyda’ch cydsyniad, gallwn ni’ch rhoi chi mewn cysylltiad ag un o’n partneriaid er mwyn darparu cymorth arbenigol.

Rhai pethau na allwn ni eu gwneud

  • Nid gwasanaeth cwnsela ydyn ni; fodd bynnag, byddwn ni wastad yn gwrando arnoch chi, ac os ydych chi eisiau derbyn cwnsela, byddwn ni’n eich helpu i ddod o hyd i wasanaeth yn agos atoch chi.
  • Unwaith y byddwch chi’n gadael sgwrsio byw, hyd yn oed os bydd hynny o ganlyniad i golli signal ffôn symudol neu gysylltiad â’r we, bydd unrhyw sesiwn sgwrsio byw y byddwch chi’n ei dechrau eto yn cyfrif fel sgwrs newydd ar wahân, ac mae’n bosib y bydd gyda chefnogwr hyfforddedig gwahanol.
  • Mae ein holl gefnogwyr wedi derbyn hyfforddiant arbenigol ar gyfer cefnogi pobl y mae troseddu wedi effeithio arnynt. Fodd bynnag, os na allwn ni ddarparu’r cymorth arbenigol sydd ei angen arnoch chi, gyda’ch cydsyniad, gallwn ni eich cyfeirio at asiantaeth bartner arbenigol i chi gael y cymorth sydd ei angen.
  • Fyddwn ni byth yn trafod sgyrsiau blaenorol rydych chi neu rywun arall wedi’u cael gyda ni dros sgwrsio byw, er mwyn sicrhau y bydd unrhyw beth rydych chi wedi’i rannu gyda ni o’r blaen yn cael ei gadw’n gyfrinachol.
  • Bydd ein cefnogwyr sydd wedi’u hyfforddi yn eich helpu chi i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi. Allwn ni ddim darparu cyngor cyfreithiol, ond byddwn ni’n eich helpu i gael gafael ar gymorth cyfreithiol os oes ei angen arnoch.
  • Os oes angen i chi siarad â’ch gweithiwr cymorth, cysylltwch â’ch swyddfa Victim Support leol. Mae ein cefnogwyr sgwrsio byw yma i’ch helpu chi, ond os oes angen i chi gael neges at eich swyddfa Victim Support neu weithiwr cymorth lleol, y ffordd gyntaf i gysylltu â nhw ydy trwy ffonio eu llinell uniongyrchol.
  • Mae’n hollbwysig bod sgwrsio byw yn brofiad diogel i’n defnyddwyr ac i’n cefnogwyr hyfforddedig. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad sarhaus tuag at ein cefnogwyr a byddwn yn blocio defnyddwyr sy’n camddefnyddio sgwrsio byw neu’n bod yn sarhaus.
  • Pan fyddwch chi’n ymuno â sgwrsio byw, byddwch chi’n cael eich gosod gyda’r cefnogwr nesaf sydd ar gael. Gallai fod yn ddyn neu’n fenyw, ac nid oes modd i ni warantu y byddwch chi’n gallu siarad â rhywun o’r rhywedd o’ch dewis. Fodd bynnag, os ydych chi eisiau gwneud cais i gael siarad â chefnogwr benywaidd neu wrywaidd, gallwch chi ein ffonio ni ar rhadffôn 08 08 16 89 111.

Adborth a chwynion

Rydyn ni eisiau rhoi’r profiad gorau posib i bawb sy’n defnyddio ein gwasanaeth sgwrsio byw. Gallwch chi roi adborth i ni i’n helpu i gyflawni hynny, neu wneud cwyn os ydych chi’n anfodlon.

Mae Victim Support yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein gwasanaeth sgwrsio byw yn ddiogel. Byddwn ni’n gwneud ein gorau i ddiogelu’r wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi i ni. Fodd bynnag, er ein bod ni’n defnyddio amgryptio, nid oes modd gwarantu bod unrhyw drosglwyddiad data dros y rhyngrwyd yn 100% ddiogel.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am breifatrwydd a diogelu data yn ein polisi preifatrwydd.

Ni fyddwn yn anfon copi i chi o’r hyn y buon ni’n ei drafod gyda chi yn ystod sesiwn sgwrsio byw. Os ydych chi eisiau cadw ein sgwrs, yna bydd angen i chi:

  • gymryd ciplun o’r sgrin ar eich ffôn clyfar neu’ch dyfais lechen
  • os ydych chi ar liniadur, cyfrifiadur personol neu MacBook, efallai yr hoffech chi ysgrifennu rhywfaint o wybodaeth
  • tynnu llun o’r sgrin os ydych chi ar liniadur, cyfrifiadur personol neu MacBook

Cofiwch gadw’ch gwybodaeth yn ddiogel.

Os byddwch chi’n rhannu manylion personol fel eich enw llawn a’ch dyddiad geni wrth ddefnyddio sgwrsio byw, gallwch chi wneud cais i gael copi o sgript eich sgwrs fyw. Gofynnwch i’r gweithiwr pan fyddwch chi’n sgwrsio a oes modd iddyn nhw anfon copi atoch chi. Dim ond eich cyfeiriad e-bost fydd ei angen arnynt.

Chat Now