Dyfed Powys (Cymraeg)

Phone

0300 123 2996

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan drosedd, galwch eich tîm gofal dioddefwyr lleol yn Nyfed-Powys ar 0300 123 2996.

Supportline

08 08 16 89 111

Os ydych chi angen cymorth y tu allan i’n horiau agor, ffoniwch Supportline am ddim ar 08 08 16 89 111 neu ofyn cymorth trwy ein gwefan.

Click here to read this page in English.

Cael cymorth gan eich tîm lleol

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan drosedd, galwch eich tîm gofal dioddefwyr lleol yn Nyfed-Powys ar 0300 123 2996.

Mae’r llinellau ar agor o 10y.b.-6y.h. o Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn.

Os ydych chi angen cymorth y tu allan i’n horiau agor, ffoniwch ein llinell gymorth am ddim ar 08 08 16 89 111 neu gofynnwch am gymorth drwy ein gwefan.

Os hoffech defnyddio Sgwrs Fyw yn Gymraeg yna gofynnwch am hyn pan fyddwch wedi cysylltu a byddwch yn cael eich trosglwyddo i siaradwr Cymraeg.

Os ydych chi wedi dioddef trosedd, p’un a ydych wedi rhoi gwybod i’r heddlu neu beidio, gallwch alw’n tîm Cymorth i Ddioddefwyr lleol yn Nyfed-Powys, a byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y wybodaeth a’r cymorth sydd ei angen arnoch. Gallai hyn olygu trefnu cyfarfod er mwyn i chi siarad â ni a chael cefnogaeth emosiynol yn gyfrinachol, eich helpu i lenwi ffurflen iawndal neu gael cyngor ar sut i wneud eich cartref yn fwy diogel, neu eich cyfeirio at sefydliadau arbenigol eraill a all helpu hefyd.

Yn ogystal â chynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i bobl sydd wedi’u heffeithio gan drosedd, rydym yn rhedeg nifer o wasanaethau arbenigol yn Ne Orllewin Cymru, gan gynnwys:

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cymorth i Ddioddefwyr i gefnogi dioddefwyr troseddau a digwyddiadau casineb yng Nghymru. Ni yw’r dull cefnogi swyddogol ac rydyn ni’n gweithio i gynyddu adrodd am droseddau casineb a chodi ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n drosedd casineb.

Gallwch gysylltu â ni ar 0300 3031 982 neu hatecrimewales@victimsupport.org.uk.

Y llynedd, cynigiom gymorth i dros 4,000 o bobl sydd wedi’u heffeithio gan droseddau yn Nyfed-Powys, a rhoddom gefnogaeth drwyadl i bron 400 o bobl.

Un dioddefydd rydym wedi’i chefnogi yw Amelia*, a gysylltodd â Chymorth i Ddioddefwyr pan oedd hi’n poeni am ladrad beic cwad ei mab 9 oed o’u heiddo.

Ers i feic Oliver** gael ei ddwyn, mae e wedi bod yn ofnus iawn ac wedi colli ei hyder. Roedd gormod o ofn arno i gysgu yn ei ystafell wely ei hun, ac roedd e’n cysgu ar wely gwersylla yn ein hystafell ni.

Siaradodd ein gweithiwr achos ag ef am ei deimladau. Dywedodd wrthynt ei fod yn poeni bod rhywun yno pan oedd yn clywed sŵn yn y nos.

Rhoddodd ein gweithiwr achos larwm personol yn arbennig ar gyfer plant i Oliver, ac esboniodd wrtho y gallai ysgrifennu’r hyn oedd yn ei boeni neu’n codi ofn arno a rhoi’r papur i mewn i Biff, y bwytäwr gofidiau, er mwyn iddo gael gwared ar y meddyliau drwg. Roedd Oliver yn hapus i wneud hyn. Edrychom ar y larwm hefyd, gan ddangos iddo beth i’w wneud os oedd ofn arno, neu os oedd e’n clywed unrhyw beth yn ystod y nos.

Ers i fudiad Cymorth i Ddioddefwyr ein cefnogi, mae Oliver wedi gwneud cynnydd ac mae e’n debycach o lawer i’r bachgen bach cyffredin oedd e cyn y digwyddiad. Mae Oliver dal yn defnyddio’r larwm personol, ac mae hyn wedi bod o gymorth mawr iddo. Mae e dal yn cysgu yn ei ystafell wely ei hun, ac mae’n ymddangos fel pe bai wedi ymlacio llawer mwy.

Rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid yn Nyfed-Powys i sicrhau eich bod chi’n cael y gefnogaeth sydd ei angen arnoch.

Darllenwch mwy am rai o’r gwasanaethau a’r mudiadau rydyn ni’n gweithio gyda nhw:

  • Prosiect Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Gwalia

Ymyrraeth gynnar a mynediad at eiriolaeth, cwnsela a gwasanaethau eraill i leihau effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ffôn: 01792 488 296 E-bost: Enquiries@gwalia.com

Mae Tai Hafan yn darparu tai â chymorth a chymorth fel y bo’r angen i fenywod sy’n agored i niwed a’u teuluoedd. Mae’r rhain yn cynnwys rhai sydd wedi dioddef trais yn eu cartref, menywod sy’n ifanc ac yn agored i niwed, mamau sengl, menywod â materion iechyd meddwl, alcohol neu gyffuriau, menywod sydd wedi bod mewn trafferth gyda’r heddlu, neu rai sydd â phroblemau iechyd neu arian. Ffôn: 01267 225 555 E-bost: sarahhumphreys@hafancymru.co.uk

Mae New Pathways yn cynnig amrediad o wasanaethau cymorth, cwnsela ac eiriolaeth ar gyfer menywod, dynion, plant a phobl ifainc sydd wedi’u heffeithio gan drais a cham-drin rhywiol.

Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n adnabod, yn dioddef cam-drin yn y cartref neu drais rhywiol, gall Byw Heb Ofn eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth sydd angen arnoch.
Llinell Gymorth Am Ddim Byw Heb Ofn: 0808 8010 800 E-bost: info@livefearfreehelpline.wales

Mae Mind Cymru’n cynnig cyngor a chymorth i roi grym i unrhyw un sy’n dioddef problem iechyd meddwl.

Chat Now