Rydym yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan drosedd yng Ngogledd Cymru. Rydym yn elusen annibynnol a gallwch gysylltu â ni i gael cymorth os ydych wedi cysylltu â'r heddlu, ai pheidio. Rydym yn cefnogi dioddefwyr; nid oes gwahaniaeth pryd ddigwyddodd y drosedd. Byddwn yn eich helpu tra byddwch angen cefnogaeth i oresgyn effaith troseddu.
Rydym yma i helpu unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan droseddau, nid yn unig dioddefwyr, ond eu ffrindiau, teulu ac unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r dioddefwyr. Rydym yn annibynnol; gallwch siarad a ni os ydych yn penderfynu adrodd y drosedd i'r heddlu ai peidio. Rydym yma i gefnogi chi; gallai hyn olygu trefnu cyfarfod i siarad â ni yn gyfrinachol ar gyfer cael cefnogaeth emosiynol, gallwn eich helpu i lenwi ffurflen iawndal neu gael cyngor ar sut i wneud eich cartref yn fwy diogel, neu eich cyfeirio at asiantaethau arbenigol eraill a all eich helpu.
Llynedd fe wnaethom gynnig cymorth i 10,000 o bobl a oedd wedi'u heffeithio gan droseddau yng Ngogledd Cymru, a darparwyd cefnogaeth fanwl i 1,000 o bobl.
Gwasanaethau arbenigol yn eich ardal chi
Yn ogystal â chynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i bobl sydd wedi'u heffeithio gan drosedd, rydym yn cynnal nifer o wasanaethau arbenigol yn Ngogledd Cymru, gan gynnwys:
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cymorth i Ddioddefwyr i weithredu fel Canolfan Genedlaethol Swyddogol ar gyfer rhoi Cymorth ac Adrodd am Droseddau Casineb yng Nghymru. Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Troseddau Casineb Cymru Gyfan yn ceisio cael un proses a dull i sicrhau bod dioddefwyr yn cael cefnogaeth briodol ac yn gallu adrodd am gasineb.
Mae’r Rheolwr Iechyd Meddwl a Lles yn gyfrifol am ein dioddefwyr bregus sy'n dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl. Gall hyn fod yn broblem iechyd meddwl dros dro, a achoswyd o ganlyniad i'r trosedd, neu broblem iechyd meddwl tymor hir. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â byrddau iechyd lleol ac mae ein timau darparu gwasanaethau yn blaenoriaethu gwasanaethau i’r unigolyn. Fel rhan o'n cyfrifoldebau lles rydym hefyd yn gwneud gwaith eiriolaeth, siarad ar ran y dioddefwr, gyda chymdeithasau tai ac yr asiantaeth budd-daliadau
Mae New Pathways yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cynghori, eiriolaeth a chymorth i ferched, dynion, plant a phobl ifanc sydd wedi dioddef trais a cham-drin rhywiol.
Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol neu fath arall o drais yn erbyn menywod, gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch chi.
Yn darparu cyngor a chymorth i unrhyw un sy'n profi trafferthion iechyd meddwl.
Amethyst SARC
Amethyst yw'r Ganolfan Atgyfeirio Dioddefwyr Troseddau Rhywiol (SARC) yng Ngogledd Cymru. Maent yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol i ddynion, merched a phlant sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol, naill ai yn ddiweddar neu yn y gorffennol.