Fel dioddefwr trosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB), gallwch chi ffonio eich tîm Victim Support lleol yn Ne Cymru, a byddwn ni’n sicrhau byddwch yn derbyn y wybodaeth ac y gymorth sydd angen arnoch chi. Gallai hyn bod yn trefnu cyfarfod er mwyn i chi siarad â ni a dderbyn cefnogaeth emosiynol yn gyfrinachol, helpu chi i lenwi mewn ffurflen iawndal neu derbyn cyngor ar sut i wneud eich cartref yn fwy diogel, neu cyfeirio chi at sefydliadau arbenigol eraill a all helpu hefyd.
Gwasanaethau arbenigol yn eich ardal chi
Yn ogystal â chynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i bobl sydd wedi'i heffeithio gan drosedd, rydym hefyd yn cynnal nifer o wasanaethau arbenigol yn Ne Cymru, gan gynnwys:
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cymorth i Ddioddefwyr i gefnogi dioddefwyr o ddroseddau casineb yng Nghymru. Yr ydym ni’n darparau dull cefnogaeth swyddogol a rydym yn gweithio i gynyddu’r adrodd o drosedd casindeb, a hefyd i gynyddu’r ymwybyddiaeth o beth ydy o.
Mae Rainbow Bridge yn wasanaeth arbenigol sy'n cefnogi dioddefwyr o gam-drin domestig sydd yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGB&T). Mae’r gwasanaeth ni wedi’i rhedeg gan Victim Support a rydym yn darparu cefnogaeth gwynebol i ddioddefwyr cam-drin domestig. Gallwn hefyd ddarparu gwasanaethau IDVA arbenigol (Independent Domestic Violence Advocate), cymorth dros y ffôn, eiriolaeth, diogelwch a chymorth gyda cheisiadau iawndal personol a chartref. Mae Rainbow Bridge eisiau grymuso a chodi lefelau hyder y gymuned LGB&T yng Nghaerdydd a'r Fro, i gynyddu mynediad i gefnogi ac asiantaethau cyfiawnder troseddol.
Blwyddyn diwethaf wnaeth ni cynnig cymorth i 20,000 o bobl a oedd wedi’i heffeithio gan droseddau yn Ne Cymru, a rhoddodd gefnogaeth manwl i bron 2,600 o bobl.
Mae Olwyn yn un dioddefwr wnaeth ni cefnogi. Menyw hŷn ydy Olwyn a oedd wedi dioddef o ladrad treisgar yn ei chartref. Nid yn unig wnaeth ein gwirfoddolwyr cynnig cymorth emosiynol i Olwyn, wnaeth hi hefyd darparu cefnogaeth ymarferol, gan gysylltu â thrydydd sector ac asiantaethau statudol i sicrhau roedd anghenion Olwyn wedi’i cyflawni’n llawn.
Meddai Olwyn: “Mae bellach yn flwyddyn ers i mi ddioddi a hoffwn i roi diolch i Victim Support am eu holl gymorth a chysur yn ystod y cyfnod hwn. Roeddwn i mor ddewr pan ddigwyddodd y tro cyntaf a rwn i’n meddwl y gallwn i ddelio â chanlyniadau fy hun, ond roeddwn i mor anghywir. Roedd Victim Support yn yno i mi a byddaf wastod yn ddiolchgar am hynny.
“Mae fy llaw dal yn brifo a rydw i’n gollwng pethau o hyd, ond rydwyn byw. Pob bore rwy'n edrych i fyny at y nefoedd, dal fy nwylo gyda’i gilydd ac adrodd “diolch i Dduw am ddiwrnod arall”.
“Hoffwn dweud diolch i Victim Support am bopeth mae nhw wedi gwneud, a dal i wneud am dan i.”
Cysylltiadau defnyddiol
Rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid yn Ne Cymru i wneud yn siŵr eich bod yn cael y cefnogaeth sydd ei angen arnoch.
Dysgu mwy am rai o'r gwasanaethau a mudiadau yr ydym yn gweithio gyda:
Mae New Pathways yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cynghori, eiriolaeth a chymorth i fenywod, dynion, plant a phobl ifanc yr effeithir arnynt gan drais rhywiol a cham-drin rhywiol.
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef o gamdriniaeth yn y cartref neu drais rhywiol, gall Live Fear Free helpu chi i ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnoch.